Sba
Spa@LC - Y gyfrinach orau yn Abertawe! Wedi'i leoli yn y Brig, mae Sba@LC yn cynnig amrywiaeth eang o driniaethau a lle i ymlacio ar ôl diwrnod llawn straen neu efallai cyn noson hamddenol!
Mae ardal wlyb y sba yn cynnwys jacuzzi, ystafell ager, sawna, ystafell aromatherapi, cawodydd monsŵn a seddi gorwedd wedi'u gwresogi, ac mae croeso i gwsmeriaid ddefnyddio'r holl nodweddion hyn trwy gydol eu hymweliad.
Mae ein therapyddion sba cymwys wrth law i gynnal triniaethau a darparu ymgynghoriadau a chyngor ynglŷn â'r croen. Os ydych am ychwanegu'r gorffeniad perffaith at eich gwisg barti gyda bysedd traed wedi'u paentio'n hardd neu a oes angen cyffyrddiad esmwythlon arnoch ar ôl noson mas yn y dref, gall Sba@LC eich helpu!
Gan ddefnyddio cynnyrch puraf Elemis, mae Sba@LC yn cynnig pecynnau i harmoneiddio'r corff a'r meddwl. I weld rhestr lawn o'r triniaethau ar gael,gallwch lawrlwytho copi o Lyfryn y Sba.
Dydd Llun – dydd Gwener: 9.00am – 10.00pm
Dydd Sadwrn – dydd Sul: 9.00am – 9.00pm
Sesiynau i fenywod yn unig: dydd Gwener o 5.00pm tan 6.00pm
Sesiynau i ddynion yn unig: dydd Gwener o 6.00pm tan 7.00pm
Sesiwn Sba Wlyb: £5.20 yr awr.
Mae rhestr lawn o brisiau'r triniaethau ar gael yn Llyfryn y Sba
Mae ffioedd ymaelodi â'r sba yn dechrau o £25 y mis. I gael mwy o fanylion, ffoniwch ein tîm aelodaeth ar 01792 466500 (ops. 1 yna ops. 3).
Trefnwch eich ymweliad ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (ops. 2 yna ops. 4)
Argymhellir cadw lle.
Sylwer bod ardal y sba wlyb yn cael ei glanhau sawl gwaith y dydd a bydd ar gau am gyfnodau byr o ddim mwy na 15 munud.
Golygfeydd 360° o'r Sba@LC ar gael yma.

