Boardrider
Mae prif atyniad i deuluoedd yn ne Cymru'n cynnwys y Boardrider!
Y cyntaf o'i bath yn yr holl fyd, reid unigryw yw'r Boardrider dan do, yn wahanol i unrhyw beth rydych wedi'i brofi o'r blaen!!
Mae'r reid yng nghanol parc dŵr yr LC a gall pobl ddewis corff-fyrddio neu fentro ar syrffio go iawn ar don ddi-derfyn gyda chlustog dŵr ar gyfer glanio
Bydd hyfforddwyr yn eich helpu i ddatblygu eich techneg a'ch cydbwysedd wrth i chi brofi gwefr y don ar yr un pryd – nid yw'r reid byth yr un peth yr eildro!
Mae'r LC wedi ymuno â Surf GSD i helpu i gyflwyno pobl i syrffio dan do ac annog oedolion a phlant i gymryd rhan yn rheolaidd yn y gweithgaredd.
Cadwch lygad am Tommy'r Crwban Môr - y Boardrider yw ei hoff weithgaredd yn yr LC!
Pen-blwydd ar y gorwel? Trowch eich sesiwn Boardrider yn barti!
Yn ystod y tymor ysgol:
Dydd Llun – dydd Gwener: 4.00pm – 9.00pm
Dydd Sadwrn – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm
Gwyliau Ysgol a Banc:
Dydd Llun – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm
Diwrnodau HMS ysgolion lleol: 11.00am – 7.00pm
Sesiynau Boardrider: £4.95 am bob 45 munud.
Academi Iau Surf GSD: £30 am 4 sesiwn awr. Nos Iau: 5.30pm – 8.30pm.
Trefnwch eich ymweliad ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 2 yna opsiwn 6)
(Derbynnir talebau cynigion Clubcard Tesco – Casglwch eich talebau cynigion yma)
Edrychwch yn llyfryn yr LC Popeth dan yr Unto am fwy o fanylion am oriau agor y Parc Dŵr a'r Boardrider.
Yr isafswm taldra yw 1.1 metr.
Darperir yr holl gyfarpar.
Mae polisi cyflwyno ar waith.
Mae'r Boardrider hefyd ar gael ar gyfer llogi preifat. Am fwy o fanylon, e-bostiwch laura.bell@the-lc.co.uk

