Manylion y Cwmni
Bay Leisure Ltd
Cwmni annibynnol nid er elw yw Bay Leisure Ltd a sefydlwyd i reoli'r LC ar ran Dinas a Sir Abertawe. Mae gan Bay Leisure brydles 10 mlynedd i weithredu'r LC, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2008.
Mae gan y cwmni fwrdd o 11 cyfarwyddwr anweithredol sydd i gyd yn wirfoddolwyr. Mae 2 aelod o'r cyngor ar y bwrdd. Mae gweddill y bwrdd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol lleol o wahanol sectorau busnes. Mae'r bwrdd yn cyfarfod unwaith y mis.
Rolau Gweithredol
Richard Proctor - Prif Weithredwr
Graddiodd Richard mewn gwyddor chwaraeon ac mae ganddo 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant hamdden mewn sefydliadau preifat a chyhoeddus. Mae Richard wedi gweithio gyda Fitness for Industry, Pace Fitness (Awstralia) a Cannons Health & Fitness. Yn ei swydd ddiweddaraf gyda David Lloyd Leisure (rhan o Whitbread PLC ar y pryd), roedd Richard yn Rheolwr Cyffredinol, yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol ac yna'n Bennaeth Newid Busnes. Mae'n briod ac mae ganddo dri phlentyn. Mae Richard yn dweud am yr LC, "Yn Bay Leisure, rydym yn canolbwyntio ar geisio darparu gwasanaeth rhagorol a gwerth ardderchog am arian. Rydym wedi cynnull tîm gwych o bobl i'n helpu i gyflawni hyn yn yr LC. Rhowch wybod i ni am unrhyw syniadau sydd gennych gan ein bod bob amser yn ceisio gwella'r cyfleuster."
David Evans – Prif Swyddog Ariannol
Graddiodd David yn y gyfraith ac mae hefyd yn gyfrifydd siartredig cymwys. Dechreuodd ei yrfa gyda Coopers & Lybrand yn Llundain cyn dod yn Gyfrifydd Ariannol HTV plc, gyda chyfrifoldeb am eu gweithrediadau ledled Cymru a gorllewin Lloegr. Swydd ddiweddaraf David oedd Cyfarwyddwr Cyllid cadwyn Bassett o ganolfannau gwerthu ceir. Meddai David am yr LC, "Roedd trawsnewid Bay Leisure Ltd (BLL) o ddarn gwag o bapur yn gwmni ffyniannus gyda throsiant o £4m a thros 120 o staff yn her anferth, ond boddhaol. Fy mhrif amcan yw sicrhau bod y BLL yn cael ei redeg mewn ffordd lwyddiannus ac ar sail ariannol gadarn." Mae David yn briod ac mae ganddo ddau blentyn.
Nic Beggs – Rheolwr Gwerthu a Marchnata
Sais yng Nghymru yw Nic (a hynny o ddewis) Graddiodd o UWIC yng Nghaerdydd gyda BA (Anrh) mewn Rheolaeth Hamdden a threuliodd amser ar ddechrau ei yrfa yn gweithio i nifer o gwmnïau gwyliau adnabyddus. Ar ôl gweld y byd, mae Nic wedi ymgartrefu yn Abertawe gyda'i wraig a thros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio i Esporta yng Nghlwb Iechyd a Racedi Morgannwg. Gadawodd y swydd honno i fod yn rheolwr cyffredinol lleoliad pêl-droed 5 pob ochr newydd sbon yn Nhre-boeth o'r enw PlayFootball. Meddai Nic, "Pan gyrhaeddais i Abertawe, gwelais yr hen ganolfan yn cau o fewn y flwyddyn gyntaf. Mi feddyliais ar y pryd y byddai'n wych i helpu i reoli'r un newydd ar ôl iddi gael ei hailagor, ac wele, dyma fi. Roedd fy ngwraig yn arfer gweithio yn yr hen ganolfan ac mae'n wych i'w gweld yn galon i Abertawe unwaith eto. Os nad ydych wedi bod i weld yr LC newydd eto, mae'n bendant yn werth ymweld â hi."
Anthony Jones - Rheolwr Cynnal a Chadw
Ac yntau wedi'i eni rhywbryd yn y 60au, mae Anthony wedi byw yn Abertawe neu'r cylch erioed. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio yn y pyllau glo fel prentis drydanwr ym 1979, a gadawodd y diwydiant glo ym 1988 toc cyn cau'r mwyafrif o'r glofeydd. Ers hynny, mae wedi gweithio i gwmnïau megis Robert Bosch, Alberto Culver, L’Oréal a Pure Wafer yn Abertawe, yn cyflawni gwaith cynnal a chadw/rheoli. Meddai Anthony, "Dechreuais weithio yn yr LC ychydig cyn ei hagor fel Rheolwr Cynnal a Chadw ac mae'r swydd, yn fy marn i, yn heriol ac yn foddhaol. Mae Anthony yn briod ac mae ganddo thair merch, un sy'n 9 oed a gefeilliaid 5 oed. Mae gan Anthony hefyd ddiddordeb mewn ceir clasurol. Mae'n berchen ar sawl car clasurol, yn bennaf o'r 60au a'r 70au, ac ar hyn o bryd mae'n paratoi Ford Cortina 1967 ar gyfer rasio. Gobaith Anthony yw cystadlu y flwyddyn nesaf.
Ian Hamlet – Rheolwr Cyffredinol
Ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau yn 16 oed, penderfynais ei bod yn hen bryd mynd i'r coleg a rhoi peth trefn ar fy mywyd!! Ar ôl 4 blynedd yn gwneud yn iawn am yr addysg a'r amser a gollwyd, dechreuais weithio fel achubwr bywyd rhan-amser… 23 o flynyddoedd yn ôl! Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar gyfer cynghorau, PLCs ac ymddiriedolaethau gan brofi bron pob swydd sydd i'w chael mewn canolfan hamdden ar ryw adeg neu'i gilydd. Fy swydd ddiweddaraf oedd Rheolwr Cyffredinol Concord Sports Centre yn Sheffield ar gyfer un o ymddiriedolaethau hamdden mwyaf Lloegr, sef Sheffield International Venues.
Rwyf wedi symud i Abertawe gyda'm partner Emma ac mae'n hynod gyffrous i gael y cyfle i weithio yn yr LC ac atgyfnerthu ei henw da fel y ganolfan hamdden orau yng Nghymru.
Rolau Rheoli
Corinne Thompson – Rheolwr Iechyd, Ffitrwydd a'r Sba
Mae Corinne wedi gweithio yn y diwydiant ffitrwydd am yr 20 mlynedd diwethaf gan ddechrau fel achubwr bywyd ac yna'n gweithio ar longau pleser, gan hwylio dros y byd i gyd fel hyfforddwr personol a hyfforddwr stiwdio. Wedyn, ar ôl bod yn berchen ar ei busnes hyfforddiant personol ei hun, ymunodd â David Lloyd Leisure (DLL) lle bu'n gweithio fel rheolwr campfa cyn ymgymryd â rheoli grwpiau gan lunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant ar gyfer 56 clwb DLL.
Ar ôl gadael DLL, aeth Corinne ar daith o gwmpas y byd a oedd yn cynnwys dysgu mewn ysgol yng Ngwlad Thai a gweithio i Dîm Cymru yn ystod Gemau'r Gymanwlad. Wedi iddi ddychwelyd o'i theithio, dechreuodd Corinne weithio fel rheolwr y Fforwm (sba, campfa, pwll a meithrinfa) yn y Celtic Manor Resort cyn ymuno â'r LC.
Meddai Corinne am yr LC, "Roeddwn yn awyddus iawn i weithio ar brosiect lle gallwn wneud cyfraniad o'r cychwyn cyntaf. Roedd gallu dewis y timau ffitrwydd a sba, yn ogystal â chael cyfrannu at ddylunio ystafell driniaeth y sba, yn foddhaol iawn." Mae Corinne hefyd yn ddylunydd gardd a mewnol cymwys ac yn gapten gyda'r RYA.
Emma Allchurch - Rheolwr y Dderbynfa
Wedi gadael yr ysgol yn 16 oed, datblygodd yrfa Emma yn fuan gyda Banc Lloyds plc. Wedi 21 flynedd o wasanaeth, mewn sawl cangen yn Abertawe a'r cylch a chyfnod byr yn Llundain, ymunodd Emma â thîm yr LC er mwyn cael her newydd. Yn wreiddiol, dechreuodd Emma fel Arweinydd Tîm y Dderbynfa ac mae wedi symud ymlaen i fod yn Rheolwr y Dderbynfa sy'n cynnwys cyfrifoldeb am y Dderbynfa, Glanhau a'r Ymyl. Meddai Emma am yr LC, ‘Mae'n lle gwych i weithio ynddo. Mae'r awyrgylch yn hamddenol ac rydym yn sicrhau bod y cwsmer yn cael cymaint o hwyl ag yr ydym ni!" Mae'n briod ac mae ganddi ddau o blant.
