Water Safety

Cyngor ar Ddiogelwch Dŵr i blant ac oedolion

Wrth y Pwll:

· Mae ymylon pyllau yn llithrig a gall fod yn anodd barnu'r dyfnder. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod p'un yw'r pen dwfn a pha un yw'r pen bas ac a oes plymio'n cael ei ganiatáu yn y pwll.

· Dylech ufuddhau i reolau diogelwch y pwll bob tro a gwrando ar gyfarwyddiadau achubwyr bywyd y pwll. Maent yno i'ch cynorthwyo i gael amser da a diogel.

· Chwarae'n ddiogel. Cerddwch o amgylch ymyl y pwll bob tro - peidiwch byth â rhedeg a chofiwch edrych am bobl eraill cyn mynd i'r dŵr.

· Ymgyfarwyddwch ag amgylchedd y pwll a darllenwch yr hysbysiadau diogelwch.

· Peidiwch â nofio os ydych newydd fwyta pryd bwyd. Caniatewch o leiaf awr i fwyd gael ei dreulio cyn nofio.

· Os byddwch yn teimlo’n sâl o gwbl, peidiwch â dechrau nofio. Os ydych eisoes yn nofio, nofiwch i ymyl y pwll a thynnu sylw achubwr bywyd.

· Nofiwch o fewn eich gallu - peidiwch â gorwneud pethau.

· Sicrhewch hylendid da - cymerwch gawod cyn mynd i'r pwll.

Rhieni:

· Edrychwch i weld sawl achubwr bywyd sydd ar ddyletswydd a ble maen nhw.

· Peidiwch â gadael eich plentyn heb i rywun ei oruchwylio, hyd yn oed os ydynt yn gwisgo cymhorthyn nofio.

· Atgoffwch eich pentyn i gerdded yn ardal y pwll a pheidio â mynd i'r dŵr oni bai eich bod chi yno hefyd.

· Anogwch eich plentyn i wylio'r hyn y mae'r achubwyr bywyd yn ei wneud a dechreuwch nodi pa weithgareddau yn y pwll sy'n beryglus.

· Cofrestrwch eich plentyn ar gyfer dosbarthiadau nofio neu oroesi personol.

· Peidiwch â nofio dan ddylanwad alcohol neu os ydych wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon.

· Os ydych yn cymryd meddyginiaeth presgripsiwn neu 'dros y cownter', gwiriwch a fydd yn effeithio ar ymarfer corff neu'n achosi syrthni.

Ar y Traeth

· NOFIWCH RHWNG Y BANERI BOB AMSER!

· Os ydych yn cael eich dal mewn cerrynt cryf, peidiwch â chynhyrfu - padlwch a nofiwch yn gyfochrog â'r lan tuag at y tonnau sy'n torri, a dylai hyn eich helpu i ddychwelyd i'r traeth.

· Peidiwch â cheisio nofio yn erbyn y cerrynt, gan y bydd hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn blino'n gyflym.

· Os ydych yn blino neu'n dychryn, dylech gadw eich pwyll, codi eich braich, galw am help ac aros am gymorth.

· Peidiwch byth â dibynnu ar diwbiau rwber ac adenydd dŵr i'ch cadw uwchben y dŵr.

· Peidiwch â chymryd risgiau trwy feddwl bod eich sgiliau nofio’n well nag ydynt.

· Nofiwch mewn ardaloedd nofio dynodedig yn unig.

· Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hunan.

· Dylai plant fod yng nghwmni oedolyn bob amser, nid ar eu pennau eu hunain.

· Os ydych yn gweld rhywun yn cael trafferth yn y dŵr, galwch am help a rhowch wybod i achubwr bywyd, os oes un ar gael. Ewch i'r ffôn agosaf, galw 999 a gofyn am wyliwr y glannau. Peidiwch â mynd i’r dŵr i achub neb.

· Peidiwch ag anghofio gwisgo eli haul a'ch amddiffyn eich hun rhag yr haul trwy aros yn y cysgod a gwisgo hetiau.

· B-aneri - edrychwch am y rhai coch a melyn a nofiwch rhyngddynt.

· A-rwyddion - edrychwch ar yr arwyddion diogelwch.

· N-awr gofynnwch i achubwr bywyd am gyngor.

· E-wch â ffrind gyda chi.

· R-howch eich llaw yn yr awyr a galw am help os ydych mewn trafferth.